Sbectrwm Hunanofal
Dadlwythwch ac argraffwch ein Sbectrwm Hunanofal i helpu i gadw golwg ar wahanol feysydd eich bywyd.
Os yw rhywbeth yn broblem – er enghraifft, os ydych chi’n cael trafferth gyda bwyd ar hyn o bryd – sgoriwch yn is i lawr, er enghraifft 1 neu 2. Os yw rhywbeth yn iawn, ac yn eich helpu chi, rhowch sgor o 9 neu 10.
Trwy wneud hyn yn rheolaidd, gallwch gadw llygad am bethau a allai fod yn broblem gyson. Unwaith y byddwch chi’n gwybod pa feysydd o’ch bywyd sy’n effeithio arnoch chi, gallwch chi ddechrau rhoi pethau ar waith i’ch helpu chi i ddelio â nhw wrth iddyn nhw godi. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol nodi’r meysydd o’ch bywyd sy’n arbennig o dda i’ch cyflwr meddwl!
Gwnewch fwy o’r pethau sy’n sgorio yn y 10au, a gwnewch yn siŵr bod gennych chi rai pethau i roi cynnig arnyn nhw y tro nesaf y byddwch chi’n wynebu rhywbeth sy’n sgorio i lawr yn yr 1’au.
Rydym hefyd wedi ychwanegu lle ichi gynnwys unrhyw feysydd eraill o’ch bywyd a allai fod yn effeithio arnoch chi – da a drwg!
Is there another resource that you think we should add? Let us know